Croeso i’r byd, Meilir Wyn Griffith

English

Wel, long time no speak! Mae’r wyth wythnos ddiwethaf wedi bod yn un emosiynol i ddweud y lleiaf. Ar Ebrill 15fed am 3:24yp, ganwyd Meilir Wyn Griffith yn Ysbyty Gwynedd, Bangor ac mae bob dim amdano yn hollol berffaith. 

Dwi’n gwybod fod bob mam yn dweud yr un peth, ond mae cariad mam tuag at ei phlentyn yn deimlad hollol wahanol i unrhyw gariad arall. Does ‘na ddim byd yn dod yn agos i’r teimlad cynnes sydd yn mynd drwyddo’ch pan mae eich plentyn yn edrych arnoch, heb sôn am y gwenu a’r ‘coos!’

Mae’r blog yma wedi bod yn un dwi wedi bod eisiau ysgrifennu ers tipyn (mae’r drafft gen i ers mae’n bythefnos oed, ond na ni – bywyd mami!), ond mae trio jyglo babi sydd yn bwyta fel monster, gwaith tŷ, trio cadw fy hun yn rhyw fath o presentable a mwynhau amser fel teulu o bump yn anoddach nag be’ oni’n meddwl! Er hyn, dwi o’r diwedd yn cael y cyfle tra mae Mei bach yn setlo i gysgu. Gan eich bod wedi bod yn rhan o fy meichiogrwydd, mae ond yn deg i chi fod yn rhan o’r stori geni. 

Ar Ebrill 13, collais fy ‘mucus plwg’ sef plwg sydd yn cau’r‘cervical canal’ yng nghanol beichiogrwydd i nadu unrhyw facteria cyrraedd yr uterus. Maen nhw’n dweud fod colli’r plwg yn arwydd fod y babi ar y ffordd. Fel buasai Ted Hastings yn dweud, “now we’re sucking diesel!” Mae’r plwg yn gallu disgyn mewn un tamaid, neu mewn ‘drib drabs’ dros amser, a dyma ddigwyddodd i mi – neu dyma oni’n meddwl oedd yn digwydd.

Am 8yb dydd Mercher, sylweddolais fod y ‘discharge’ ‘ma dal i ddod allan, ond erbyn hyn roedd wedi troi i fod fwy fel dŵr. Yn amlwg mi ofynnais i fy noctor – Dr Google – am gyngor, ac roedd llawer o wefannau yn dweud mai ella’r dŵr oedd wedi torri. Gan mai ‘trickles’ o ddŵr oedd yn dod allan yn hytrach na’r llif enfawr rydych yn gweld mewn ffilmiau, wnes i’m meddwl am y posibilrwydd mai fy nŵr oedd o. Er hyn, ffoniais yr ysbyty ac o fewn deg munud, roedd fi a Danny ar ein ffordd i’r uned asesu i weld os oedden unrhyw agosach i gyfarfod babi Griffith.

ael fy monitro a chael y prawf, cawsom y newyddion ecseiting fod y dŵr wedi torri! Wohoo meddais i’n hun, ond “ooo shit” hefyd. Er ges i naw mis i brepio fy hun, doeddwn i heb rili feddwl am sut buasai labour yn wirioneddol teimlo. Ond dyma ni, mi oni’n barod i ffeindio allan! 

Fel rheol, dydy’r byd wragedd ddim yn licio gadael chi basio’r marc 24 awr ers i’r dŵr dorri heb orfod sefyll mewn gan fod fwy o bosibilrwydd cael ‘infections.’ Gyda’r hyn, penderfynais i gael ‘induction.’ I gychwyn yr induction, ges i besari – propess – am 7yp oedd yn edrych dipyn bach fel tampon oedd yn mynd fyny at y serfics. Dechreuodd y poenau gychwyn, dim byd mega ond poenau oedd digon tebyg i boenau period. Cyn i unrhyw boen iawn gychwyn, disgynnodd y blydi propess allan o’i le, felly roedd rhaid iddynt roi fo’n ôl i mewn o gwmpas 10yp… cyn iddo ddisgyn allan ETO, am 1yb. Blydi typical! Ar ôl iddo ddisgyn allan am yr ail dro, doedd y byd wraig ddim yn hapus i’w rhoi fo’n ôl eto gan ei bod wedi asesu fy serfics ddwywaith yn barod ac roedd hi’n ofn ffidlan gormod rhag ofn iddo godi’r siawns o’r babi’n cael unrhyw fath o haint. Oherwydd hyn, ges i wybod buaswn yn mynd ar y drip bore ddydd Iau. 

Am 7yb ddydd Iau ges i fy symud i’r ‘consultant led unit’ yn y ward geni. Roedd hyn yn meddwl dim geni mewn dŵr i mi’n anffodus, ond mae’n rhaid mai fel yma roedd Meilir Wyn yn fod i gyrraedd y byd. Unwaith ges i’n symud i’r ward geni, cafodd Danny ymuno yn y ‘stafell gan fod i wedi ‘dilatio’ tri chentimedr. I feddwl fod canllawiau cofid wedi bod yn galed, mi oni’n hynod iawn o lwcus i gael fy mhartner yna o’r cychwyn. Drip wedi ei rhoi mewn i mi am saith o’r gloch, waiting game oedd o rŵan. 

Pum awr yn pasio a dal ddim poenau. Un a’i dwi’n delio’n grêt efo’r poen, neu mae ‘na rhywbeth o’i le. “Dio’n iawn i mi asesu chdi?” gofynnodd y byd wraig. Tri chentimedr dal i fod, ond gwelodd y fydwraig fod yna LOT mawr o ddŵr dal heb i’w dorri. “I’m going to use a hook to break your waters if that’s ok.” HOOK? Blydi hel y peth cyntaf ddoth i’m meddwl oedd blydi Captain Hook ar Peter Pan! Yn hytrach nag môr-leidr hefo un llaw, estynnodd y byd wraig offer oedd yn edrych yn llawer mwy caredig. *Dwr yn torri* GUUUUUSSSSSSHHH! Mi oedd y dŵr yma’n llifo am beth oedd yn teimlo fel oriau! Ond, o’r eiliad roeddent yn torri roedd y poenau’n cychwyn. 

“Gai i gas and air plîs?!” oedd un o’r pethau cyntaf daeth allan o’n ngheg. Ffwjin Nora. Y poen. Gan fod Meilir cefn wrth gefn, roedd yr holl boenau oni’n cael yn fy nghefn. Dwi’n meddwl gwnes i ryw awr (os hynny) ar jest gas and air tan i mi orfod gofyn am rywbeth cryfach. Diamorphine ges i nesaf. 

Diamorphine. Dau air. God send. Dydy o’m yn tynnu’r poen i gyd i ffwrdd ond rhwng contractions dwi’n meddwl oni’n cael fy nghnocio allan. Meddyliwch am hyn. Mi ydych yn cerdded am kebab ar ôl y noson allan gorau erioed. Llygaid ym mhob man, coesau’n teimlo’n ysgafn a’r pen yn troi. Dyna ydi diamorphine. 

Er hyn, ges i’m rhy hir i fwynhau’r diamorphine achos yn lwcus iawn i mi, roedd Mei bach yn barod i ddod i’r byd. 

Allan o nunlle ges i’r angen i fynd i’r toiled. “You don’t need a poo love, you’re about to give birth.” O mam bach. Ar ôl naw mis o ddisgwyl o gwmpas, roedd y diwrnod wedi cyrraedd i mi gyfarfod fy mab. 

Dechreuais i bwsio o gwmpas 2:30yp, ac erbyn 3:24yp, ganwyd fy mab perffaith.

Ar ôl tair awr a hanner o labour actif (doedd Meilir ddim eisiau disgwyl rhy hir i gyfarfod mam a dad!) ganwyd fy mab perffaith. Mi wnes i eni ar fy mhedwar gan fod poenau cefn yn horrendous. Dwi’n cofio cyn pwsio am y tro olaf y byd wraig yn dweud wrthyf am ddal fo rhwng fy nghoesau pan mae’n dod allan. Dyma wnes i’n amlwg, ond dechreuais banicio gan weiddi “mae troed fo dal yn styc tu mewn i mi!” cyn i’r byd wraig ateb yn dweud “…naci Annest, y plasenta sydd tu mewn i chdi…” Wps. Mi roi’r bai ar y drygs. 

Doeddwn i methu coelio pa mor lwcus oni i gael geni mor hawdd ar ddiwedd bob dim.  Tair awr a hanner o boen am fabi cyntaf, ac wedi cael profiad arbennig gan gael fy mhartner yno drwy’r geni ac wedyn tan i mi symud i’r ward yn y nos a oedd yn 12 awr i gyd. 

Mae’n rhaid i mi ganmol pob un fydwraig a helpodd mi drwy’r geni. Mi oedd pawb yn Ysbyty Gwynedd yn arbennig hefo fi a Meilir. Dydy pobl ddim yn sylwi pa mor lwcus ydyn ni i gael y GIG, yn enwedig mewn adegau mor ddiarth ag geni, heb sôn am eni mewn pandemig. I unrhyw ddynes sydd yn boenus dros eni, os mai geni am y tro cyntaf, neu eni yng nghanol covid, peidiwch. Mae pawb yn edrych ar eich hol ac yn gwneud i chi deimlo mor gyffyrddus. Mi fyddai am byth mewn dyled i’r genethod yn Ysbyty Gwynedd. 

O! Anghofiais ddweud. Dwi’n meddwl mai’r peth gwaethaf am y geni oedd jest cyn cael y drip mewn i mi. Tra roedd y cannula yn mynd mewn i’n llaw, trodd y fydwraig ataf gan ofyn “ti’n gwybod fod chdi’m yn cael bwyta rŵan tan ti’n geni?” SORI BE? CANCEL. CANCEL. CANCEL. Felly roedd yr ham a’r saws parsli efo tatws mash, y swp a’r pwdin siocled efo saws siocled yn mynd i wast. Wel dyma fuasai’n digwydd fel arfer, ond pan ganddoch gannet fel partner, does ‘na’m byd yn mynd i wast. Roedd hyn yn golygu tra oni’n dechrau cael poenau drwg, mi oedd Danny yn tycio mewn i pryd tri cwrs. Tri cwrs FI. Wallgo.

Siarad yn fuan,

Annest x

1 Comment

Leave a Comment

Fill in your details below or click an icon to log in:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out /  Change )

Google photo

You are commenting using your Google account. Log Out /  Change )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out /  Change )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out /  Change )

Connecting to %s